Y mae trysorau dwyfol ras

Text:  William Williams (Pant-y-celyn) 
Music:  William Jones  1789
Tune:  St. Stephen  8.6.8.6
OHT Incipit:  15312 17123 45123

Y mae trysorau dwyfol ras
O lawer uwch eu rhyw
Na dim, o'r nefoedd faith i'r byd,
Erioed a greodd Duw.

Tra caffwyf yfed ar fy nhaith
O'r ffynnon loyw glir,
Nid ofnaf ronyn, er eu grym,
O ddrygau'r anial dir.

Er fod picelau tanllyd iawn
Y hedeg yn eu grym;
Yn erbyn cariad dwyfol pur
Nis gallant drygu dim.

Ac mi ymffrostia'_yn nerth y nef-
Yn nerth y nef ei hun;
Fe bwysa haeddiant dwyfol pur
Fwy na phechodau dyn.

The Ames Hymn Collection

MIDI sequence copyright © 2004 Brian M. Ames.

accesses. Updated 4/28/04

 This page copyright © 1999 Brian M. Ames All rights reserved.