Yr Arglwydd a'm carodd i'n rhyfedd erioed

Text:  William Williams (Pant-y-celyn) 
Music:  Welsh Hymn Melody 
Tune:  Joanna  11.11.11.11
OHT Incipit:  16427 51332 11642

Yr Arglwydd a'm carodd i'n rhyfedd erioed;
Fe'm cywir adnabu yn mhell cyn fy mod
Arfaethodd yn gynnar fy nghadw'n ddigel,
Pan wnaeth ei gyfammod in sicr dan sel.

A chariad tragwyddol fe'm caodd ido;
Clod iddo trwy'r nefoedd! fe'm cadwodd mewn co':
'Sgrifenodd fy enw i yno ryw bryd
Yn mhlith y rhai garwyd cyn seiliad y byd.

Er imi droseddu glan gyfraith fy Nuw,
Do, ganwaith ei demtio a'i flino, gwir yw,
Ni newid, ni thorir y weithred a wnaed
Gynt yn nhragwyddoldeb-fe dd'wedodd fy Nhad.

Wel, dyma fel carodd fi'n rhodd ac yn rhad;
Pa drysor dan nefoedd mwy gwerthfawr a gaed?
Oen anwyl ei fynwes a gefais heb gel;
Mae ynddo'n guddiedig fy mywyd dan sel.

Mi ges y Ffrynd goreu fyth, fyth, all'sai fod;
Yr addewid a roddod ni thorodd erioed:
Er byw'n ei ogoniant yn nghanol y nef,
Mewn awr o gyfyngder fe_wrendy fy llef.

The Ames Hymn Collection

MIDI sequence copyright © 2004 Brian M. Ames.

accesses. Updated 4/28/04

 This page copyright © 1999 Brian M. Ames All rights reserved.