Duw yw fy nerh a'm noddfa lawn

Text:  William Williams (Pant-y-celyn) 
Music:  Day's Psalter 
Tune:  Nashville (Day)  8.8.8
OHT Incipit:  13455 66553 51566

Duw yw fy nerh a'm noddfa lawn;
Mewn cyfyngderau creulon iawn,
Pan alwom arno mae ger llaw;
Ped ai'r mynyddoedd mwya' i'r mor,
Pe chwalai'r ddaear fawr a'i 'stor,
Nid ofnai'm henaid i ddim braw.

A phe doi'r moroedd dros y byd
Yn genllif garw coch i gyd,
Nes soddi'r bryniau fel o'r blaen;
Mae afon bur i lawenhau
A'i ffrydiau ddinas Duw'n ddidrai,
Preswylfa_ei saint, a'i babell lan.

A Duw sydd yno yn eu plith,
Ni ysgogir un o honynt byth;
Fe'u cymmhorth hwy yn foreu iawn:
Y boreu byddo mwy na mwy
O bob gwasgfeuon arnynt hwy,
Ceir qwel'd ei addewid ef in llawn.

Terfysgodd cenedlaethau'r byd,
A brenhiniaethau aeth yn llid,
Yn erbyn ei Eneiniog ef:
Ing, cyfyng-gynghor, llewygfau,
Ac arswyd, ddaeth ar gedyrn rai;
Y ddaear doddodd gan ei lef.

Arglwydd y lluoedd sydd o'n plaid.
Duw lago'n gymmhorth in wrth raid;
Gobeithiwn ynddo byth am hyn:
Dewch, sy, llwch ar ei ryfedd waith,
Fath ddistryw wnaeth trwy'r ddaear faith:
Mae'n siwr bydd yn amddiffyn in.

Fe wnaeth ryfeloedd mawr eu llid
I beidio hyd eithafoedd byd;
Y cedryn mawr ddychryna_o'i flaen:
Fe ddryllia'r bwa dur yn glau,
Fe dyr y waewffon yn ddau,
Fe lysg eu holl gerbydau_a than.

The Ames Hymn Collection

MIDI sequence copyright © 2004 Brian M. Ames.

accesses. Updated 4/28/04

 This page copyright © 1999 Brian M. Ames All rights reserved.