O Arglwydd! Na Cheridda Fi

Text:  Edmund Prys 
Music:  R. H. Williams 
Tune:  Dymuniad  8.7.8.7
OHT Incipit:  13215 43223 45432

O Arglwydd! na cheridda fi
yn mhoethni dy gynddaredd;
Ac na chosba fi in dy lid,
O blegid fy anwiredd.

O Arglwydd! dy drugaredd dod,
Wyf lesg mewn nychdod beunydd;
O Arglwydd! tyr'd, iacha fi'n chwyrn,
Mae f'esgyrn oll mewn cystudd.

Duw, gwared f'einaid, dychwel di,
Iacha fi a'th drugaredd;
Nid oes yn angeu gof na hawl;
A phwy a'th fawl o'r priddfedd?

Yr Arglywydd, clybu ef fy arch,
Rh'of finnau barch a moliant;
Fe dderbyn weddi'r tlawd a'i waedd,
Am hyn fe haed ogoniant.

The Ames Hymn Collection

MIDI sequence copyright © 2004 Brian M. Ames.

accesses. Updated 4/28/04

 This page copyright © 1999 Brian M. Ames All rights reserved.